Carwyn Jones
Mae Carwyn Jones yn ymweld â chymunedau yn y gogledd heddiw sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd dros gyfnod y Nadolig.
Bydd yn ymweld â Biwmares, Talybont a Dyffryn Conwy sydd wedi cael eu hamharu waethaf yn sgil y glaw trwm ar y 25, 26 a 27 o Ragfyr.
Mae disgwyl i Brif Weinidog Cymru ddiolch i aelodau’r gwasanaethau brys, staff Asiantaethau Cefnffyrdd a Chyfoeth Naturiol Cymru, gwirfoddolwyr a phobl leol am helpu cymunedau yn sgil y llifogydd dros gyfnod y Nadolig.
Bydd hefyd yn gweld y gwaith sy’n cael ei wneud ar ffyrdd lleol i geisio lleihau effaith y llifogydd ar fodurwyr, gan gynnwys ffordd ddeuol yr A55, a oedd ynghau ar Ŵyl San Steffan oherwydd llifogydd difrifol yn Llanfairfechan.
Yn sgil Storm Frank ddoe fe fu 1,400 o gartrefi heb gyflenwad trydan yng Nghymru. Mae Western Power Distribution yn dweud eu bod wedi adfer y cyflenwad i’r rhan fwyaf o gartrefi erbyn hyn ond mae tua 190 o adeiladau ym Mhowys yn dal heb drydan.
Mae tri rhybudd llifogydd yn dal mewn grym – dau yn Sir Gaerfyrddin ac un yn Sir Ddinbych.
£1m ar unwaith
Mae’r Prif Weinidog wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn neilltuo £1 miliwn ar unwaith i warchod cartrefi ac eiddo. Bydd y cyllid hwn yn helpu awdurdodau lleol i wneud gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ar unwaith i gynlluniau draenio ac afonydd, meddai, gyda’r flaenoriaeth yn cael ei roi i gartrefi ac eiddo.
Ers 2011 dywed Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymrwymo bron i £300m, gan gynnwys cyllid Ewropeaidd, er mwyn rheoli risg llifogydd, a chaiff £150m arall ei fuddsoddi mewn gwaith rheoli risg arfordirol o 2018.
Mae hyn yn cynnwys buddsoddiad yn y gogledd yn targedu cynlluniau yn y Rhyl, Corwen, Dolgellau, Bae Colwyn a Biwmares.
‘Rheoli risg llifogydd yn flaenoriaeth’
Wrth siarad cyn ei ymweliad, dywedodd Carwyn Jones: “Mae pobl yn y Gogledd a’r Canolbarth, y mae’r llifogydd diweddar wedi effeithio ar eu cartrefi a’u busnesau, wedi bod ar fy meddwl dros y Nadolig. Dwi am fynegi fy niolch calonnog i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith atal, achub ac adfer.
“Yn benodol, dwi am dalu teyrnged i wirfoddolwyr cymunedol, y gwasanaethau brys, Cyfoeth Naturiol Cymru, Asiantaethau Cefnffyrdd a staff awdurdodau lleol, sydd wedi bod yn gweithio’n ddiflino ers Dydd San Steffan.
“Mae hwn wedi bod yn gyfnod o law eithriadol, ond mae’n rhaid inni gydnabod, a’r hinsawdd yn newid fel y mae, bod tywydd fel hyn yn dod yn amlach. Dyna pam mae rheoli risg llifogydd ac arfordirol yn dal i fod yn un o brif flaenoriaethau’r Llywodraeth hon.
‘Paratoi ar gyfer y risg o lifogydd’
Ychwanegodd Carwyn Jones: “Fe fyddwn ni’n parhau i gydweithio’n agos ag awdurdodau lleol er mwyn gweld pa gamau ychwanegol y gallwn ni eu cymryd er mwyn cyflymu’r gwaith i warchod cartrefi a modurwyr, gan osgoi unrhyw effeithiau diangen ar ddefnyddwyr y ffyrdd ar yr un pryd.”.
“Yn y cyfamser, dwi am bwyso ar bobl Cymru gyfan i ymbaratoi ar gyfer y risg o lifogydd pellach, bod yn ofalus a chadw llygad cyson ar yr wybodaeth a’r rhybuddion sy’n cael eu cyhoeddi. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn diweddaru eu gwefan bob 15 munud.”