Mohammed Rehman a Sana Ahmed Khan
Mae cwpl a oedd wedi cynllwynio ymosodiad brawychol yn Llundain i gyd-ddigwydd  a nodi 10 mlynedd ers ymosodiadau 7 Gorffennaf, wedi cael dedfryd o garchar am oes.

Wrth eu dedfrydu yn yr Old Bailey heddiw dywedodd Mr Ustus Baker bod Mohammed Rehman, 25, a’i gyn-wraig Sana Ahmed Khan, 24, yn “berygl sylweddol” i’r cyhoedd.

Roedd rheithgor wedi cael y cwpl yn euog o baratoi gweithred brawychol ym mis Mai eleni.

Cafodd Rehman ei garcharu am oes a bydd yn rhaid iddo dreulio isafswm o 27 mlynedd dan  glo.

Cafodd Khan ei charcharu am oes gydag isafswm o 25 mlynedd dan  glo.

Targedau

Clywodd y llys bod yr eithafwr Islamaidd Mohammed Rehman wedi defnyddio ei gyfrif Twitter ym mis Mai i ofyn am awgrymiadau ynglŷn â pha dargedau i’w dewis – un ai canolfan siopa Westfield neu system drenau tanddaearol Llundain.

Gan ddefnyddio arian gan ei wraig ar y pryd, Sana Ahmed Khan, roedd wedi prynu’r cemegolion oedd eu hangen i wneud bom anferth yn ei gartref yn Reading.

Cafodd y ddau eu harestio ar 28 Mai.

Dywedodd yr erlyniad bod Rehman yn agos at gwblhau’r ddyfais a fyddai wedi achosi difrod sylweddol ac anafiadau difrifol yn Llundain, oni bai ei fod wedi cael ei atal gan heddlu gwrth-frawychiaeth.

Roedd Rehman a Khan wedi gwadu gwneud unrhyw beth o’i le ac wedi gwrthod rhoi tystiolaeth yn yr achos.

Bu farw 52 o bobl a chafodd 770 eu hanafu mewn ymosodiad bom yn Llundain ar 7 Gorffennaf 2005.