Yr Old Bailey
Mae cwpl wedi eu cael yn euog o gynllwynio ymosodiad brawychol yn Llundain i gyd-ddigwydd a nodi 10 mlynedd ers ymosodiadau 7 Gorffennaf.
Roedd yr eithafwr Islamaidd Mohammed Rehman, 25, wedi defnyddio ei gyfrif Twitter ym mis Mai i ofyn am awgrymiadau ynglŷn â pha dargedau i’w dewis – un ai canolfan siopa Westfield neu system drenau tanddaearol Llundain.
Gan ddefnyddio arian gan ei wraig Sana Ahmed Khan, 24, roedd wedi prynu’r cemegolion oedd eu hangen i wneud bom anferth yn ei gartref yn Reading.
Cafodd y ddau eu harestio ar 28 Mai.
Dywedodd yr erlyniad bod Rehman yn agos at gwblhau’r ddyfais a fyddai wedi achosi difrod sylweddol ac anafiadau difrifol yn Llundain, oni bai ei fod wedi cael ei atal gan heddlu gwrth-frawychiaeth.
Yn dilyn achos yn yr Old Bailey cafwyd y cwpl yn euog o baratoi gweithred brawychol.
Roedd Rehman a Khan wedi gwadu gwneud unrhyw beth o’i le ac wedi gwrthod rhoi tystiolaeth yn yr achos.
Mae disgwyl i’r ddau gael eu dedfrydu ddydd Mercher neu ddydd Iau.
Bu farw 52 o bobl a chafodd 770 eu hanafu mewn ymosodiad bom yn Llundain ar 7 Gorffennaf 2005.