Fe allai pobl sy’n cam-drin dioddefwyr yn seicolegol drwy wefannau cymdeithasol neu drwy ysbio arnyn nhw ar-lein, wynebu hyd at bum mlynedd yn y carchar.
Fe fydd pwerau newydd yn targedu’r rhai sy’n cam-drin partneriaid, neu aelodau eraill o’r teulu yn seicolegol neu’n emosiynol, ond nad ydyn nhw’n dreisgar.
Mae deddfwriaeth newydd sy’n dod i rym heddiw yn caniatáu i gyhuddiadau gael eu gwneud mewn achosion o gam-drin domestig lle mae tystiolaeth bod person wedi cael eu cam-drin yn seicolegol.