Heddlu arfog ar strydoedd Brwsel wedi'r ymosodiadau ym Mharis
Mae dau berson wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynllwynio ymosodiadau ym Mrwsel, Gwlad Belg ar Nos Galan.

Cafodd y ddau eu harestio yn dilyn cyrchoedd ddydd Sul a dydd Llun yn ardaloedd Liege a Flemish Brabant, ym Mrwsel, meddai swyddfa’r erlynwr.

Yn ystod y cyrchoedd daeth yr heddlu o hyd i ddillad milwrol, deunydd propaganda gan y Wladwriaeth Islamaidd (IS), a deunydd cyfrifiadurol sy’n cael eu harchwilio gan swyddogion. Ond ni chafwyd hyd i arfau na ffrwydron, yn ôl swyddfa’r erlynwr.

Datgelodd yr ymchwiliad bod “bygythiad o ymosodiadau difrifol” a fyddai’n targedu nifer o safleoedd nodweddiadol ym Mrwsel dros y Flwyddyn Newydd.

Yn ôl un ffynhonnell, roedd y prif sgwâr, Grand Place, yn y brifddinas, sy’n llawn siopwyr ar yr adeg hon o’r flwyddyn, yn un o’r targedau honedig.

Cafodd chwech o bobl eu holi ond mae pedwar bellach wedi cael eu rhyddhau.

Mae un o’r dynion sydd wedi’i arestio wedi’i gyhuddo o arwain grŵp brawychol a oedd yn bwriadu cyflawni troseddau brawychol. Mae’r ail ddyn wedi’i gyhuddo o gymryd rôl allweddol mewn gweithredoedd grŵp brawychol.

Dywedodd llefarydd ar ran swyddfa’r erlynydd nad yw’r ymchwiliad yn gysylltiedig â’r ymosodiadau ym Mharis ar 13 Tachwedd. Roedd gan y ddau sy’n cael eu hamau o fod yn gysylltiedig â’r ymosodiadau, Abdelhamid Abaaoud a Salah Abdeslam, gysylltiadau a Gwlad Belg.