Bu farw dau o bobol yn dilyn gwrthdrawiad rhwng  car a threlar cario ceffylau ar Wyl San Steffan.

Fe fu car Kia mewn damwain gyda cherbyd cario ceffylau tua 2.30yp ar briffordd yr A436 ger Stow on the Wold, i gyfeiriad Chipping Norton. Mae Heddlu Sir Caerloyw wedi cadarnhau heddiw y bu farw gyrrwr y car, ynghyd â theithwraig, yn y fan a’r lle.

Dydi’r cwpwl ddim wedi’u hadnabod yn ffurfiol eto, ond mae eu teuluoedd wedi cael gwybod am y ddamwain.

Fe gafodd ceffyl ei anafu yn y digwyddiad.