Mae cynghrair o wrthryfelwyr yn Syria – sy’n cynnwys grwpiau Cwrdaidd, Arabaidd a Christnogion – wedi meddiannu argae ar afon Ewffrates a fu yn nwylo’r Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Fe gipiodd y gynghrair, sy’n ei galw ei hun yn SDF (Syria Democratic Forces) Argae Tishrin yn ystod dydd Sadwrn, fel rhan o ymgyrch sy’n ceisio torri’r cyflenwad dwr a bwyd rhwng ardaloedd yng ngogledd Syria lle mae IS yn gry’.

Mae Argae Tishrin yn darparu cyflenwad trydan i rannau helaeth o ogledd Syria.

Yn gynharach yr wythnos hon, fe ddywedodd llefarydd ar ran SDF eu bod yn ceisio amharu ar y cyflenwadau sy’n mynd rhwng dinasoedd Raqqa a Manbij.