Wrth i nifer o bobol ledled gogledd Lloegr aros i gael eu symud o’u cartrefi, mae nifer o drigolion mewn un stryd yng Nghaerefrog (York) yn sownd yn eu tai.
Maen nhw’n byw ar lan afon Foss, lle mae tai Navigation Road wedi’u hamgylchynu gan y llif. Mae tua dwsin o bobol yn sownd ym mhob un o bedwar bloc o fflatiau, lle mae dyfnder y dwr at eu brest.
“Mae’n codi ofn ar rywun,” meddai un dyn 31 oed. “Mae dwr o’n cwmpas ni ym mhob man. Mi archebais i sachau tywod neithiwr, ond dydyn nhw ddim wedi cyrraedd eto. Rwan, mae’n rhy hwyr.”
Y gobaith ydi y bydd y fyddin yn cyrraedd y stryd o fewn yr oriau nesa’ i achub y trigolion, lle mae nifer yn oedrannus.
“Mae hanner York dan ddwr,” meddai’r dyn wedyn.