Does yna ddim trenau’n rhedeg heddiw gan gwmni Trenau Arriva Cymru rhwng Caergybi a Llandudno, gan fod llifogydd wedi effeithio ar nifer o fannau ar y lein.

Mae disgwyl i staff Arriva gynnal archwiliadau o’r trac heddiw, er mwyn gweld maint y difrod. Er hynny, efallai y bydd y gwaith hwn yn cael ei amharu arno gan drafferthion teithio ar y ffyrdd o fan i fan.

Fe fydd ticedi ar gyfer heddiw’n cael eu derbyn ar drenau fory (Rhagfyr 28) yn ôl llefarydd ar ran y cwmni.