Mae yna bedwar rhybudd rhag llifogydd mewn grym ar gyfer Cymru heddiw, er bod y glaw trymaf wedi peidio. Fe achoswyd difrod ac anhrefn ddoe, wrth i law trwm a gwyntoedd chwipio gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr.

Gwelwyd ceir yn cael eu gadael mewn pyllau mawr o ddwr yng nghyffiniau dinas Bangor ac ar brif ffyrdd yr A55, A5 ac A470 yn y gogledd; fe fu tirllithriad yn ardal Biwmares ym Môn; ac fe aeth dwr i mewn i gartrefi ym Mhwllheli, Y Bontnewydd a Chonwy.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi’r rhybuddion canlynol, lle maen nhw’n gofyn i bobol ymateb ar unwaith:

Gwynedd – Afon Erch, Aber-erch

Gwynedd a Sir Ddinbych – Dyffryn Dyfrdwy o Lanuwchllyn i Langollen, yn cynnwys tre’ Corwen

Sir Benfro – Dinbych-y-Pysgod

Wrecsam – Bangor-is-y-Coed