Mae Heddlu De Cymru wedi rhyddhau llun teledu cylch cyfyng, wedi adroddiadau fod dyn dieithr wedi cyffwrdd pen-ôl merch 15 oed yng nghanol dinas Caerdydd.

Fe ddigwyddodd hyn yn Heol y Frenhines, yn ôl adroddiadau.

Roedd y ferch 15 oed gyda’i ffrindiau ar fore Mawrth, Rhagfyr 15, pan ddaeth dyn nad oedd hi’n ei adnabod ati a’i chyffwrdd.

Mae Heddlu De Cymru’n gofyn i unrhyw un sy’n adnabod y dyn o’r llun, i’w ffonio ar y rhif 101.