Jerwsalem
Mae’r awdurdodau yn dweud eu bod wedi dal Palesteiniad y maen nhw’n ei amau o drywanu un o filwyr Israel yn ninas Jerwsalem.

Mae llefarydd ar ran yr heddlu yn dweud bod dyn 30 oed yn y ddalfa, wedi iddo, yn honedig, drywanu milwr ger gorsaf fysiau ganolog y ddinas. Chafodd y milwr ddim ei anafu’n ddifrifol yn y digwyddiad.

Fe lwyddodd swyddog diogelwch gerllaw i ddal yr ymosodwr wrth iddo geisio dianc.