Yr eglwys, wedi ei hadnewyddu
Yn ystod yr wythnos nesaf, fe fydd Eglwys Gadeiriol Llandaf yn nodi 75 o flynyddoedd ers ymosodiad awyr yn ystod Blitz yr Ail Ryfel Byd – wythnos gynta’ 1941 a welodd 167 o bobol yn cael eu lladd yng Nghaerdydd, a dinistrio’r eglwys ei hun.
Fe rwygwyd to’r eglwys i ffwrdd gan y bom ar Ionawr 2, 1941, ac fe achosodd y difrod gwaetha’ i unrhyw un o eglwysi cadeiriol y Deyrnas Unedig yn ystod yr Ail Ryfel Byd – oni bai am Eglwys Gadeiriol Coventry.
Ond er y difrod yn Llandaf, ni chafodd neb eu lladd ar y safle, gan fod y Deon ac un aelod arall o staff wedi gallu dianc yn ddianaf. Ond ledled y ddinas y noson honno, fe gafodd 165 o bobol eu lladd, fe anafwyd 427, ac fe gafodd tua 350 o gartrefi eu dinistrio.
Fe fydd gwylnos yn dod â’r wythnos nesa’ o gofio i ben ddydd Sul, Ionawr 3, am 3.30yp.
Mae’r fan y tu allan i’r Eglwys, lle syrthiodd y bom, bellach yn ardd goffa i’r rheiny laddwyd yn 1941, ac mae carreg yno i nodi’n union safle.
“Fe fydd yr wylnos, a’r wythnos hon, yn gyfle i ni gofio’r noson ofnadwy honno yng Nghaerdydd pan gollodd cymaint o bobol eu bywydau a’u cartrefi,” meddai Deon presennol Llandaf, Gerwyn Capon.
“Fe fydd hefyd yn wasanaeth lle cawn ni’r cyfle i weddïo am heddwch ar draws y byd a fydd yn dod â rhyfeloedd i ben.
“Yn y blynyddoedd wedi dinistio’r Eglwys Gadeiriol,” meddai wedyn, “fe gafodd yr eglwys hon ei hadnewyddu, a dyna pam mae gyda ni heddiw adeilad hardd sydd yn adnodd pwysig i’r brifddinas.”