Barnet 2 – 0 Casnewydd

Colli o 2-0 wnaeth Casnewydd oddi-cartref yn Barnet, gyda dwy gôl ail hanner i John Akinde.

Daeth y gyntaf o gic o’r smotyn wedi 54 munud wedi i Medy Elito droseddu’n erbyn Aaron Mclean yn y cwrt, gan weld cerdyn coch am ei drafferth.

Er i Gasnewydd bwyso am gôl i ddod â’r sgôr yn gyfartal, dangosodd y dyn o fantais yn y diwedd wrth i Akinde ychwanegu ail gôl ym munud olaf y gêm i sicrhau’r tri phwynt i’w dîm.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Casnewydd yn aros yn ugeinfed safle’r Ail Gynghrair, 7 pwynt uwchben y ddau safle sy’n cwynpo ar ddiwedd y tymor.