Bydd mwy na 500 o isbostfeistri a gafodd eu hamau neu eu cyhuddo o ddwyn arian gan Swyddfa’r Post yn derbyn taliad gwerth tua £40,000 yr un gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Effeithiwyd arnynt i gyd gan feddalwedd ddiffygiol a oedd yn gwneud iddo edrych fel bod arian ar goll o’u canghennau.
Er iddyn nhw ennill £58m o iawndal yn 2019, cafodd arian y grŵp ei lyncu gan gyfreithwyr oherwydd cytundeb “dim ennill, dim ffi”.
Mae llawer wedi’u gadael heb unrhyw adnoddau ariannol, tra’n cael eu heithrio o gynlluniau iawndal eraill Swyddfa’r Post.
Cyhoeddodd y Gweinidog dros Faterion Post, Paul Scully, ym mis Mawrth y byddai’r grŵp hwn yn cael ei roi ar lefel sy’n cyfateb i ddioddefwyr eraill yn y sgandal hwn, ond mae wedi cymryd misoedd i nodi’r broses i hynny ddigwydd, ar ôl blynyddoedd o ymladd i brofi eu bod yn ddieuog.
Nawr mae Paul Scully yn dweud y bydd taliad iawndal dros dro gwerth cyfanswm o £19.5m yn cael ei dalu nes y ceir cytundeb terfynol, a dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai’n gwneud rhywfaint i helpu llawer o bostfeistri sy’n dal i wynebu caledi. Roedd nifer o Gymru yn eu plith.
Dywed y Gweinidog y bydd y taliadau diweddaraf yn cael eu gwneud o fewn wythnosau.
Yn y cyfamser, dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa’r Post fod y prif weithredwr, Nick Read, wedi bod yn annog y Llywodraeth i weithredu ar hyn ers peth amser, a bod “sicrhau iawndal llawn, teg a therfynol i holl ddioddefwyr Sgandal Horizon yn flaenoriaeth”.