Mae Cyngor Sir Powys yn ystyried gohirio cau ysgol gynradd Llanfihangel Rhydithon.

Mewn cyfarfod o bwyllgor craffu Dysgu a Sgiliau Cyngor Sir Powys ddydd Mercher (Mehefin 29), bu aelodau’n ystyried adroddiad sy’n cynnig gohirio’r penderfyniad i gau’r ysgol.

Roedd disgwyl i’r ysgol gau ar Awst 31, 2022 ar ol i’r penderfyniad gael ei gytuno gan y weinyddiaeth Annibynnol/Geidwadol flaenorol.

Fodd bynnag, mae’r cyngor bellach yn cael ei arwain gan y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Lafur.

Byddai unrhyw gynigion newydd, megis ei droi’n ysgol cyfrwng Cymraeg, yn gweld y broses yn dechrau o’r dechrau.

Dywedodd swyddogion addysg wrth y pwyllgor fod 36 o ddisgyblion yn yr ysgol ar hyn o bryd – gyda disgwyl i’r ffigwr ostwng i 34 ym mis Medi.

“Awydd i gael addysg cyfrwng Cymraeg”

Er i’r penderfyniad i gau ysgolion gael ei wneud yn gynharach eleni, dywedodd y swyddogion addysg wrth y pwyllgor na fu unrhyw geisiadau i symud plant i ysgolion eraill.

“Holl bwynt yr oedi yw cael asesiad priodol o’r niferoedd posibl o ddisgyblion Cymraeg ac a oes hyfywedd ar gyfer ysgol gwbl Gymraeg,” meddai’r aelod Cabinet dros addysg ym Mhowys, y Cynghorydd Pete Roberts.

“Mae awydd i gael addysg cyfrwng Cymraeg ar lefel gynradd yn Nwyrain Sir Faesyfed – dydyn ni ddim yn gwybod beth yw lefel y galw na’r lleoliad gorau.”

Esboniodd y Cynghorydd Roberts fod rhan o’r broses o wneud penderfyniadau yn gysylltiedig ag uchelgais Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i 1 miliwn erbyn 2050.

Dywedodd y Cynghorydd Roberts bod angen gwneud penderfyniad i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg er mwyn helpu â’r nod hwn.

Ychwanegodd y bydd ffigurau’r Cyfrifiad ar siaradwyr Cymraeg, sy’n cael eu cyhoeddi’r Hydref hwn, yn ddata allweddol i ddadansoddi a fydd penderfyniad i newid yr ysgol yn cael ei ystyried.

Bydd sylwadau’r pwyllgor yn cael eu hychwanegu at yr adroddiad a fydd yn mynd i gyfarfod cabinet ddydd Mawrth nesaf, 5 Gorffennaf ar gyfer penderfyniad.