Justin Welby (llun PA)
Fe fydd Cristnogaeth yn cael ei dileu’n llwyr yn yr ardal lle dechreuodd hi, meddai Archesgob Caergaint.

Yn ôl Justin Welby mae mudiad jihadaidd IS yn benderfynol o ladd pob gwahaniaeth a’u cred mewn proffwydoliaethau’n golygu eu bod yn fodlon wynebu pob gwrthwynebiad.

Ac yntau’n bennaeth ar yr Eglwys Anglicanaidd trwy’r byd, fe ddefnyddiodd yr Archesgob ei bregeth yn Eglwys Gadeiriol Caergaint i rybuddio bod Cristnogaeth yn wynebu difancoll oherwydd yr “apocalyps” y mae IS wedi ei greu.

Cefnogaeth

IS oedd “Herod heddiw” meddai, ac fe ddaeth cefnogaeth i’w sylwadau gan brif Rabbi Iddewig gwledydd Prydain, Ephraim Mirvis.

Roedd Cristnogaeth yn diodde’ mwy na’r un grefydd arall, meddai.