siopa
Fe fydd pobol ar draws gwledydd Prydain yn gwario mwy na £700 miliwn ar-lein heddiw, ddydd Nadolig.

Dyna’r darogan gan gwmni data Experian a chymdeithas y gwerthwyr ar-lein IMRG, wrth i bobol gymryd seibiant o ddathlu i wario  rhagor.

Fe fyddai’r ffigwr eleni o tua £730 yn gynnydd o tua £50 miliwn ar gyfanswm y llynedd.

Rhesymau tros siopa

Mae cwmni cardiau credyd Barclaycard hefyd wedi gwneud ymchwil i resymau pobol tros siopa ddydd Nadolig.

  • Roedd 32% yn dweud eu bod yn ofni colli’r bargeinion gorau.
  • Roedd 18% yn disgwyl bod wedi syrffedu.
  • Roedd 15% yn disgwyl cael siom gyda phresantau, gan fynd i pethau eraill yn eu lle.