O wefan yr amlosgfa
Mae amlosgfa ger Bryste wedi llwyddo i gael trwydded gwerthu alcohol – y gynta’ yn y Deyrnas Unedig i wneud hynny.

Yn ôl llefarydd ar ran Amlosgfa Westerleigh, fe fydd ystafelloedd yn cynnig gwasanaeth bar a lle i deuluoedd gynnal  digwyddiad “tawel ac urddasol” yn dilyn angladd.

Cafodd Amlosgfa Westerleigh y drwydded cyn iddi agor ystafell letygarwch newydd a chaffi ym mis Chwefror.

Mae’r ystafelloedd hyn yn gallu cael eu rhannu, gan alluogi i bartïon rhwng 20 a 150 o bobol gynnal digwyddiad yno heb orfod teithio i le arall.