(CCA 3.0)
Fe gafodd saith person eu cludo i’r ysbyty ar ôl i fws daro i mewn i adeilad yng nghanol dinas Peterborough.

Roedd y bws wedi gwrthdaro â char hefyd yn union cynt.

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Dwyrain Lloegr wedi cadarnhau bod saith o bobol wedi cael eu cludo i Ysbyty Dinas Peterborough yn dilyn y digwyddiad tua hanner dydd

Yn ôl llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans, roedden nhw wedi trin 13 o gleifion i gyd, ond does yr un ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol.

Aeth dau arall i’r uned anafiadau mân ac fe gafodd pedwar eu hasesu ond doedd dim angen triniaeth bellach arnyn nhw.

Difrod difrifol i adeilad

Roedd peiriannydd adeiladu wedi cael ei alw i asesu’r “difrod difrifol” i’r adeilad ac roedd peiriannydd nwy wedi gwahanu’r prif bibellau.

Fe ddywedodd perchnogion y bws, Stagecoach, y bydden nhw’n cydweithredu gydag ymchwiliadau’r heddlu.