Llun o wefan Cymru Dros Heddwch
Mae mudiad heddwch wedi annog pobol i fanteisio ar dymor ewyllys da i edrych yn ôl ar hanes eu teulu a rôl Cymru’n hybu heddwch er mwyn sbarduno gweithgarwch tebyg yn y dyfodol.
Wrth i deuluoedd ddod at ei gilydd dros yr ŵyl, dywedodd Cymru Dros Heddwch y byddai’n gyfle gwych i bobol ddysgu mwy am beth wnaeth cyn-deidiau a chyn-neiniau a fu’n pledio heddwch adeg y Rhyfel Mawr a chyfrannu at eu prosiect.
A hithau’n ganrif ers y Rhyfel, mae’r mudiad yn casglu gwybodaeth am gyfraniad y Cymry at heddwch yn ystod y 100 mlynedd ac fe fydd yn lansio arddangosfa ‘Cofio dros Heddwch’ yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yn y flwyddyn newydd.
Fe fydd yn gyfle, medden nhw, i bobol gyfrannu tuag at eu Llyfr Cofio o’r Rhyfel Mawr.
‘Dysgu pethau perthnasol’
Yn ôl pennaeth y mudiad, sydd yn rhan o Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru ac yn cael ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, y gobaith yw y gall pobol ifanc ddysgu pethau o’r gorffennol a all fod yn berthnasol o hyd heddiw.
“Mae’r cynllun Cymru dros Heddwch yn brosiect treftadaeth sydd hefyd yn edrych i’r dyfodol, gan ei fod yn caniatáu i bobol ifanc heddiw, a’u disgynyddion, feddwl am ddewrder ac aberth niferoedd dros y ganrif a fu,” meddai Craig Owen.
“Yn ei dro bydd hyn hefyd yn symbylu cenedlaethau’r dyfodol i barhau gyda’r momentwm i ganfod heddwch.”