Mae dynes wedi marw a phum arall wedi cael eu hanafu, pedwar ohonyn nhw yn ddifrifol, ar ôl i gar daro i mewn i siop goffi Costa.

Digwyddodd y gwrthdrawiad yn nhref Westerham yng Nghaint, yn ne-ddwyrain Lloegr tua 10:30am y bore yma.

Mae lluniau ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos car Audi mewn ffenest ar flaen y caffi a sawl ambiwlans ac injan dân ar y safle.

“Gwnaeth ein clinigwyr drin chwech claf i gyd, gan gynnwys un claf oedd yn anffodus wedi marw ar y safle,” meddai llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Arfordir De Ddwyrain Lloegr.

Roedd pump claf arall wedi cael eu cludo i’r ysbyty, ac mae’r pedwar o’r rhain gydag anafiadau difrifol.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Caint ei fod wedi rhyddhau dau berson o’r car ac roedd pum criw tân ar y safle.