Yn dilyn gwrthdrawiad y bore yma ar yr A55 ger Abergele, mae dynes, 31 oed, wedi marw ar ôl cael ei chludo i’r ysbyty.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd ymadael yr A55, ger cyffordd 24, Abergele ac un cerbyd, sef Citroen C1, oedd yn rhan ohono.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 7:30 a chafodd y ddynes ei chludo i Ysbyty Glan Clwyd gydag anafiadau difrifol.

Mae’r Heddlu yn parhau i apelio am dystion ac yn awyddus i siarad â gyrrwr Ford Focus lliw arian a oedd yn teithio tu ôl i’r car Citroen, a oedd efallai wedi gweld y  gwrthdrawiad.

“Rydym yn ymchwilio i’r gwrthdrawiad traffig ac rwy’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth fyddai’n ein helpu ni gyda’r ymchwiliad i gysylltu â ni,” meddai’r Sarjant Gwyndaf Jones o Uned Plismona’r Ffyrdd.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Uned Plismona’r Ffyrdd ar 101 a dyfynnu’r cyfeirnod S195872.