Mae lladron wedi dwyn dwsinau o dyrcwn o siop fferm bentrefol ger Caerdydd gan greu ansicrwydd i gwsmeriaid ynghylch argaeledd eu cinio Nadolig.

Cafodd y tyrcwn eu dwyn ynghyd ag eog wedi’i fygu a gwahanol fathau o fwyd Nadoligaidd eraill o siop y Caesar’s Arms ym mhentref Creigiau heddiw.

Gyda diwrnod Nadolig ar y gorwel, dywedodd gweithiwr o’r siop wrth golwg360 eu bod nhw’n brysur iawn yn ceisio ateb pob archeb ond eu bod yn sicr y bydd neb yn gorfod mynd heb dwrci.

Yn ôl Heddlu’r De, digwyddodd y lladrad yn y siop rhwng canol nos a phump o’r gloch y bore.

“Roedd nifer o gynnyrch wedi cael ei ddwyn o’r oergell gig,” meddai llefarydd, gan ychwanegu ei fod yn ymchwilio i’r achos.