Mae ditectifs ym Mhrydain sy’n ymchwilio i frawychiaeth Islamaidd eithafol wedi arestio dyn 31 oed.

Dywedodd Scotland Yard bod y dyn wedi cael ei arestio mewn eiddo yn ne Llundain ychydig ar ôl 5 prynhawn ddoe.

Cafodd ei gadw o dan y Ddeddf Brawychiaeth ar amheuaeth o “fod yn rhan o ddirprwyo, paratoi neu annog gweithredoedd brawychol”.

Mae’n parhau i fod yn y ddalfa yng ngorsaf yr heddlu yng nghanol Llundain, tra bod swyddogion yn chwilio eiddo preswyl yn ne’r ddinas.

“Mae’r arestio yn cael ei gysylltu â brawychiaeth Islamaidd eithafol,” meddai llefarydd ar ran yr Heddlu Metropolitan.

Roedd swyddogion arfog yn bresennol pan gafodd ei arestio ond doedd dim gynnau wedi’u tanio.