Mae Heddlu’r De wedi arestio trydydd dyn mewn cysylltiad ag ymosodiadau rhyw yng Nghaerdydd ym mis Medi.

Roedd swyddogion yr heddlu wedi teithio i Fanceinion i arestio Tahir Nazir ar amheuaeth o ymosodiad rhyw mewn tŷ yn Nheras Cathays ar 22 Medi.

Y digwyddiad yma oedd yr ail mewn cyfres o dri ymosodiad rhyw dros gyfnod o bum niwrnod rhwng 20 a 24 Medi.

Mae Tahir Nazir, 39 oed, wedi cael ei gyhuddo o gyffwrdd yn rhywiol heb gydsyniad ac o dresbasu gyda’r bwriad o gyflawni trosedd rhyw.

Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa a bydd yn mynd gerbron Llys Ynadon Manceinion a Salford drwy gysllt fide oar 5 Ionawr, 2016.

Mae tri dyn bellach wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â thri ymosodiad, sydd ddim yn gysylltiedig, rhwng 20 a 24 Medi yng nghanol y brifddinas ac yn Cathays.

Mae’r tair dioddefwraig wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf ac yn cael cymorth gan swyddogion.

Mae Khalid Alahmadi, 23,  o Gaerdydd wedi’i gyhuddo o geisio treisio yn dilyn digwyddiad yng Ngerddi’r Orsedd ar 24 Medi.

Ac mae Remus Hamza, 40, o Lan yr Afon, Caerdydd, wedi’i gyhuddo o dreisio yn dilyn digwyddiad yng nghanol Caerdydd ar 20 Medi.

Mae disgwyl i’r ddau sefyll eu prawf ym mis Chwefror.