Bu’n rhaid i bron i 500 o gleifion yng Nghymru aros yn yr ysbyty yn hirach na’r angen yn ystod mis Tachwedd eleni oherwydd oedi yn y broses o’u rhyddhau.

Er gwaethaf prinder gwlâu mewn sawl ysbyty, weithiau mae rhai cleifion yn gorfod aros wythnosau cyn gallu mynd adref neu gael eu trosglwyddo i ofal pellach.

Ac mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am beidio â gwneud mwy i leihau’r pwysau ar ysbytai.

‘Diffyg uchelgais’

“Mae llawer gormod o gleifion yn gorfod aros wythnosau nes eu bod nhw’n cael mynd adref neu gael eu trosglwyddo i leoliad gofal arall,” meddai arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams.

“Mae’n hanfodol bod trefniadau ar gyfer eu rhyddhau mewn pryd mewn lle er mwyn sicrhau bod y nifer prin o wlâu yn rhydd. Fel arall mae’n creu problem ble mae pethau’n gwaethygu.

“O dan Lywodraeth Lafur Cymru rydyn ni wedi gweld lleihad sylweddol yn nifer y gwlâu ysbyty. Mae hynny wedi golygu nad oes digon i ateb y galw.”

Mynnodd Kirsty Williams bod y ffigyrau diweddaraf yn dangos yr angen am well cydweithio rhwng gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, gan gyhuddo’r llywodraeth o “ddiffyg uchelgais”.

‘Gostyngiad’

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’r ystadegau swyddogol diweddaraf yn dangos bod gostyngiad o 1.3% wedi bod ym mis Hydref o’i gymharu â’r mis blaenorol.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething: “Mae’r ffigurau diweddaraf hyn yn dangos gostyngiad arall i’w groesawu yn nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal. Dyma’r ail fis yn olynol lle cafwyd gostyngiad, o’i gyferbynnu â’r duedd a welsom mewn rhannau eraill o’r DU.

“Yma yng Nghymru rydym wedi mynd ati i fuddsoddi mewn iechyd a gofal cymdeithasol am ein bod yn gwybod bod llawer o bobl yn dibynnu ar y ddau wasanaeth am eu gofal.

“Mae hyn yn cynnwys buddsoddi miliynau o bunnoedd yn y Gronfa Gofal Canolraddol, sydd â rôl o bwys wrth gefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain; atal pobl rhag cael eu derbyn i’r ysbyty yn ddiangen a lleihau oedi wrth ryddhau pobl o’r ysbyty.”

Ychwanegodd: “Byddwn yn parhau i weithio’n agos â byrddau  iechyd ac awdurdodau lleol i sicrhau bod pobl yn gallu gadel yr ysbyty neu fynd ymlaen at y cam nesaf yn eu gofal cyn gynted ag y byddant yn ddigon iach yn feddygol i wneud hynny.”