Senedd Sbaen
Mae arweinydd y blaid sosialaidd yn Sbaen wedi dweud na fydd yn cydweithio â’r prif weinidog Mariano Rajoy i ffurfio llywodraeth.
Roedd Mariano Rajoy, arweinydd plaid geidwadol y PP, wedi cyfarfod ag arweinydd y sosialwyr Pedro Sanchez yn dilyn etholiadau Sbaen.
Fe gipiodd PP 123 o’r 350 sedd yn y senedd yn yr etholiadau dydd Sul, gan golli’r mwyafrif oedd ganddynt yn dilyn etholiadau 2011.
Roedd y prif weinidog felly wedi gobeithio creu clymblaid â’r sosialwyr, enillodd 90 sedd, neu geisio ffurfio llywodraeth leiafrifol.
Llwyddiant pleidiau newydd
Ond mae Pedro Sanchez wedi dweud na fydd yn cefnogi ymgais Mariano Rajoy i aros mewn pŵer drwy glymblaid neu lywodraeth leifafrifol.
Fe gollodd y ddwy brif blaid 84 o seddi rhyngddyn nhw yn dilyn llwyddiant dau o’r pleidiau newydd yn yr etholiad.
Cipiodd plaid asgell chwith newydd Podemos a’i chynghreiriaid 69 o’r seddi yn y senedd, tra bod plaid busnes-gyfeillgar Ciudadanos wedi hawlio 40.
Pleidiau cenedlaetholgar yng Nghatalonia a Gwlad y Basg gipiodd y rhan fwyaf o’r seddi oedd yn weddill.
Os nad oes llywodraeth yn cael ei ffurfio o fewn deufis fe allai etholiadau newydd gael eu galw.