Hannah Witheridge
Mae dau ddyn a allai wynebu’r gosb eithaf am gyhuddiadau o lofruddio dau deithiwr o Brydain yng Ngwlad Thai yn “hyderus” y byddan nhw’n eu cael yn ddieuog mewn achos llys fory.

Cafwyd hyd i gyrff Hannah Witheridge, 23 a David Miller, 24 ar draeth ar yr ynys wyliau Koh Tao ar 15 Medi y llynedd.

Fe wnaeth y mewnfudwyr o Burma, Zaw Lin ac Wai Phyo gyfaddef i’r llofruddiaeth yn wreiddiol ond yn ddiweddarach, fe wnaeth y ddau dynnu eu datganiadau yn ôl, gan ddweud eu bod wedi’u harteithio gan yr heddlu i gyffesu.

Os bydd y ddau yn cael eu dyfarnu’n euog yn yr achos ar Noswyl Nadolig, byddan nhw’n wynebu’r gosb eithaf.

Mae disgwyl i dri barnwr ddychwelyd eu dyfarniadau mewn llys ar yr ynys Koh Samui yn dilyn dros flwyddyn o broses gyfreithiol yn yr achos.

 

“Disgwyl cael cyfiawnder”

Dywedodd Andy Hall, sy’n ymgynghorydd ar faterion rhyngwladol gyda’r Rhwydwaith Hawliau Gweithwyr Mewnfudol wrth y Press Association fod y ddau ddyn yn teimlo’n “hyderus” am y gwrandawiad ar ôl iddo ymweld â nhw yn y carchar.

“Dywedon nhw eu bod nhw’n disgwyl cael cyfiawnder,” meddai, gan ychwanegu eu bod yn nerfus ac ar bigau’r drain.

Mae erlynwyr yn dweud  bod tystiolaeth DNA a gafodd ei chasglu o fonion sigaréts, condom a chyrff y dioddefwyr yn gysylltiedig â Zaw Lin a Wai Phyo.

Ond mae cyfreithwyr sy’n cynrychioli’r ddau ddyn, sy’n 22 oed, yn dweud nad oes samplau DNA o’r arf  honedig yn gysylltiedig â nhw.

Roedd Hannah Witheridge o Norfolk a David Miller o Ynys Jersey, wedi cyfarfod ar ynys Koh Tao tra’n aros yn yr un gwesty.

Mae archwiliadau post-mortem yn dangos bod y ddau wedi dioddef anafiadau difrifol i’r pen. Roedd Hannah Witheridge wedi cael ei threisio a bu farw David Miller ar ôl cael ei fwrw dros y pen cyn boddi yn y môr.

Fe wnaeth swyddogion yr heddlu o Brydain deithio i Wlad Thai i helpu â’r ymchwiliad i’w marwolaethau yn dilyn apêl gan y Prif Weinidog, David Cameron i arweinydd milwrol  y wlad.