Mae Llys Cyfiawnder Ewrop wedi dweud y byddai cynlluniau Llywodraeth yr Alban i gyflwyno isafswm pris alcohol yn torri cyfreithiau’r Undeb Ewropeaidd.
Cafodd y ddeddfwriaeth i gyflwyno isafswm pris alcohol ei basio gan Senedd yr Alban yn 2012, ond cafodd hynny ei herio gan gynhyrchwyr alcohol gan gynnwys Cymdeithas Wisgi’r Alban.
Mae’r llys yn Lwcsembwrg nawr wedi dod i’r casgliad y byddai’r polisi yn ‘cyfyngu’r farchnad’, ac yn lle gosod isafswm pris, y gallai llywodraethau geisio cyflwyno mesurau fyddai’n codi prisiau diodydd meddwol.
Dim pŵer
Roedd llysoedd yr Alban wedi cyfeirio’r mater at Ewrop er mwyn gweld beth oedd eu barn nhw ar y ddeddfwriaeth.
Roedd llywodraeth yr SNP wedi gobeithio gosod isafswm pris o 50c yr uned ar gyfer alcohol, ond fe fydd Llys y Sesiynau yng Nghaeredin nawr yn gwneud penderfyniad terfynol ar y mater.
Does gan Lywodraeth yr Alban ddim pwerau i godi trethi ar alcohol, gan fod hwnnw yn gyfrifoldeb i Lywodraeth San Steffan.