Jeremy Corbyn
Dylai Llafur wneud adduned blwyddyn newydd i gael gwared â Jeremy Corbyn am ei fod yn “bla” ar ei blaid, yn ôl un o’u gwrthwynebwyr gwleidyddol.

Dywedodd Syr Bernard Ingham, sydd yn gyn-ysgrifennydd y wasg i Margaret Thatcher, na fydd yr arweinydd Llafur na’i “ddilynwyr milwrol” yn mynd i ffwrdd a bod rhaid cael eu gwared cyn iddyn nhw fynd yn rhy gyfforddus.

“Mae Corbyn yn sôn am ddynoliaeth, cydraddoldeb a heddwch – er ei fod yn cymdeithasu â brawychwyr  – ond ar yr un pryd yn rhyddhau cŵn rhyfel Trotsky-aidd milwrol ar ei blaid, a bygwth dad-ddewis unrhyw AS Llafur sy’n ei wrthwynebu,” meddai’r Ceidwadwr wrth y Yorkshire Post.

‘Ymostwng i derfysgwyr’

Mewn ymosodiad ffyrnig ar Corbyn, mynnodd Syr Bernard Ingham ei fod yn “Farcsydd” heb os, oedd â dim parch dros “ffeithiau bywyd economaidd”.

Ychwanegodd ei fod yn wantan ar bolisi rhyngwladol ac y byddai’n fwy na pharod i ymostwng i Vladimir Putin a brawychiaeth, gan annog y blaid Lafur i gael gwared arno mor fuan â phosib.

“Dydi o ddim yn gweld unrhyw beth o’i le mewn benthyg hyd syrffed a gadael i’n hwyrion dalu’r bil gydag arian pwdr tra’n bod ni’n talu trethi uwch rŵan,” ychwanegodd Syr Bernard Ingham.