Milwyr yn Afghanistan
Mae rhagor o filwyr Afghanistan wedi cael eu hanfon i gymryd rheolaeth o ranbarth allweddol yn ne’r wlad sydd wedi cael ei chipio gan y Taliban.
Dywedodd gweinidog amddiffyn dros dro Afghanistan, Masoom Stanekzai fod yr ymladd yn nhalaith Sangin yn Helmand yn parhau wrth i’r fyddin a’r heddlu gyrraedd i helpu lluoedd diogelwch yno.
Mae tua 450 o filwyr o Brydain wedi cyrraedd yno yn y dyddiau diwethaf i helpu’r fyddin ond mae’r llywodraeth yn galw am ragor o gymorth milwrol rhyngwladol, yn enwedig o’r awyr, a fyddai, meddai, yn lleihau nifer y bobol sy’n cael eu hanafu.
Mae Sangin yn ardal bwysig yn nhalaith Helmand, lle mae llawer o ffermwyr yn tyfu blodau’r pabi.
Mae ar y ffin â Phacistan ac ar lwybrau cyffuriau, arfau a nwyddau anghyfreithlon a phroffidiol eraill.