Mae cwmni Apple wedi beirniadu mesur drafft Pwerau Ymchwiliol y Deyrnas Unedig, mewn dogfen swyddogol i’r pwyllgor sy’n craffu ar y ddeddfwriaeth.
O dan gynlluniau’r Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, byddai gofyn i gwmnïau cyfathrebu helpu’r gwasanaethau cudd i hacio i mewn i gyfrifiaduron a ffonau clyfar pobol sy’n cael eu hamau o gyflawni trosedd.
Mae Apple, a ddyfeisiodd teclynnau fel yr iPhone a’r iPad, eisoes wedi rhybuddio yn erbyn rhoi caniatâd i ysbiwyr ddarllen e-byst eu cwsmeriaid oherwydd y gallai ‘helpu troseddwyr.’
Yn y ddogfen, sydd wedi cael ei chyflwyno i’r pwyllgor seneddol sy’n craffu ar y mesur, mae’r cwmni yn canmol y defnydd o amgryptio yn y diwydiant cyfathrebu ac yn awgrymu y dylai hyn gael ei gryfhau.
“Rhaid i ni ddiogelu data personol ein cwsmeriaid hyd eithaf ein gallu. Amgryptio cryfach, nid gwannach, yw’r ffordd orau o ddiogelu rhag y bygythiadau hyn,” meddai’r ddogfen.
“Mae’r Ddeddf yn bygwth niweidio dinasyddion sy’n dilyn y gyfraith yn ei ymdrech i fynd i’r afael â rhai pobol ddrwg sydd ag amryw o ffyrdd o ymosod.”
Caniatáu awdurdodau i gael cynnwys ffonau symudol
Mae’r dechneg yn caniatáu awdurdodau i ymyrryd â dyfeisiau electronig a gallai amrywio o allu cael mynediad i gyfrifiadur i lawrlwytho cynnwys o ffôn symudol.
Mae’n cael ei weld fel techneg hanfodol gan fod amgryptio yn gwneud codi negeseuon yn anoddach.
Fodd bynnag, mae Apple yn dadlau bod amgryptio yn cael ei ddefnyddio llawer, ac na fyddai ei wanhau yn arafu’r bygythiad gan droseddwyr.
Awgryma’r ddogfen y byddai gorfodi cwmnïau i hacio i mewn i’w systemau yn eu gwneud yn llai diogel gan y byddan nhw’n gorfod newid cynllun ei systemau, a allai “beryglu preifatrwydd a diogelwch defnyddwyr yn y DU.”
Mae pryderon hefyd y gallai’r cynigion waethygu gwasanaethau sy’n cynnig amgryptio llawn fel WhatsApp a iMessage Apple, er gwaethaf sicrhad Theresa May na fyddai’r ddeddfwriaeth yn “gwahardd amgryptio nac yn gwneud unrhyw beth i danseilio diogelwch data pobol.”