Michael Sheen
Mae un o actorion Hollywood wedi cychwyn deiseb i alw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau’r gofal gorau ar gyfer pobl ifanc ddigartref yng Nghymru.
Fe gychwynnodd yr actor Michael Sheen, sy’n wreiddiol o Bort Talbot, ddeiseb i sicrhau na fyddai awdurdodau lleol yn cyfeirio pobl ifanc ddigartref rhwng 16 ac 17 oed i letyau gwely a brecwast.
Mae’r actor, 46 oed, o’r farn nad yw llety gwely a brecwast yn addas i bobl ifanc ddigartref, ac mae’n nodi yn ei ddeiseb fod nifer yn teimlo’n “ofnus, wedi’u dychryn, wedi’u hamddifadu ac yn llwglyd,” wrth gael eu rhoi mewn llety gwely a brecwast.
Mae mwy na 20,000 wedi llofnodi ei ddeiseb eisoes, ac mae’n galw ar Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol i sicrhau na fydd pobl ifanc ddigartref yn cael eu lletya mewn gwely a brecwast.
‘Newid y canllawiau’
“Yn yr achosion gwaethaf, mae pobl ifanc wedi cofnodi ymosodiadau rhywiol ar ôl cael eu rhoi mewn ystafelloedd heb gloeon ac mewn tŷ yn llawn o bobl ddieithr,” esbonia’r actor.
Mae’n crybwyll canllawiau’r llywodraeth yn Lloegr sy’n nodi na ddylai pobl ifanc yn eu harddegau gael eu rhoi mewn llety gwely a brecwast, ac fe ddywedodd ei fod am weld Llywodraeth Cymru’n newid eu canllawiau ar gyfer yr awdurdodau lleol hefyd.
“Pe byddai pobl ar draws Cymru yn dod at ei gilydd ar y mater hwn, gallwn argyhoeddi Llywodraeth Cymru fod angen newid.”
Yn ôl ymchwil gan yr elsuen End Youth Homelessness Cymru, mae awdurdodau lleol yn cyfeirio tua 100 o bobl ifanc 16 – 17 oed i lety gwely a brecwast bob blwyddyn.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mewn ymateb i’r ddeiseb, fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod “defnydd o lety gwely a brecwast i bobl ifanc ddigartref wedi gostwng yn ystod y deng mlynedd diwethaf.”
Esboniodd fod y ffigurau diweddaraf yn dangos mai 15 o deuluoedd gyda phlant oedd mewn llety gwely a brecwast ddiwedd mis Medi eleni.
“Mae ymchwil a wnaed gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) ym mis Tachwedd wedi dangos nad yw mwy na hanner o gynghorau Cymru yn defnyddio llety gwely a brecwast i bobl ifanc 16 ac 17 oed.
“Rydym ni’n gweithio ar ganllawiau statudol cryfach i waredu â’r defnydd o lety gwely a brecwast i bobl ifanc yn yr awdurdodau lleol sydd ar ôl.”
Fe ychwanegodd eu bod nhw’n cynghori’r awdurdodau lleol hynny i ddilyn arweiniad y cynghorau “sydd eisoes yn dod o hyd i lety gwahanol a diogel ar gyfer pobl ifanc sy’n wynebu bod yn ddigartref.”