David Cameron
Mae David Cameron wedi awgrymu y gall refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd gael ei gynnal ym mis Mehefin y flwyddyn nesaf.
Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn hyderus o sicrhau cytundeb ynglŷn â diwygio aelodaeth Prydain o’r UE.
Mae’n credu y bydd “newid sylfaenol” yn y berthynas ar faterion fel budd-daliadau i ymfudwyr yn cael ei wireddu’r flwyddyn nesaf.
Fe awgrymodd hefyd y byddai’n arwain yr ymgyrch o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd, gan bwysleisio mai aelodaeth o UE ddiwygiedig fyddai orau i economi a diogelwch Prydain.
Bu’n siarad ar ddiwedd uwch-gynhadledd ddeuddydd ym Mrwsel lle bu’n wynebu gwrthwynebiad chwyrn gan arweinwyr gwledydd eraill i’w fwriad i atal mewnfudwyr rhag hawlio budd-daliadau am bedair blynedd.
Mae ’na bryder y byddai’n tanseilio egwyddor yr UE o ganiatáu i bobl symud yn rhydd rhwng y gwledydd Ewropeaidd.
‘Cynnydd da’
Mae’n mynnu bod “cynnydd da” wedi bod tuag at gytundeb ym mis Chwefror.
Ond ychwanegodd: “Mae’n mynd i fod yn dalcen caled ac mae llawer o waith eto i’w wneud.”
Dywedodd: “Dwi’n credu y gallwn gyflawni rhywbeth allweddol, sy’n newid yn sylfaenol yn ein perthynas gyda’r Undeb Ewropeaidd, gan ateb pryderon pobl Prydain am aelodaeth yr UE.”
Roedd David Cameron eisoes wedi rhoi addewid i gynnal refferendwm ar y mater cyn diwedd 2017. Ond byddai sicrhau cytundeb yn uwch gynhadledd y Cyngor Ewropeaidd ym mis Chwefror yn golygu y byddai refferendwm yn cael ei gynnal yn llawer cynharach , gydag awgrymiadau y gallai’r refferendwm gael ei gynnal ym Mehefin 2016 .