Llys y Goron Caerdydd
Mae dyn wedi cael ei garcharu am 16 mlynedd am geisio llofruddio ei bartner ar ôl ei thrywanu droeon.
Yn Llys y Goron Caerdydd heddiw cafodd Arnel Raymundo, 48, o’r Rhath, ei ddedfrydu ar ôl ei gael yn euog o geisio llofruddio a chyhuddiad ar wahân o sbecian.
Roedd Raymundo wedi trywanu Anna Caladiao, 43,yn ei chartref yn Heol Penarth, Caerdydd ar 12 Mehefin ar ôl iddi ei holi ynglŷn â fideo ar ei ffon o ddynes ifanc yn y bath.
Pan ddywedodd Anna Caladiao na fyddai hi’n aros amdano petai’n mynd i’r carchar, fe aeth i’r gegin i nôl cyllell.
Clywodd y llys ei fod wedi ei thrywanu sawl gwaith yn ei chefn. Fe lwyddodd Anna Caladiao i ddianc o’r tŷ a gweiddi am help.
Cafodd Raymundo ei weld yn ddiweddarach yng nghanol dinas Caerdydd yn nol arian o beiriant twll yn y wal ac yn prynu dillad a thocyn bws i Lundain.
Cafodd ei arestio yn Llundain bythefnos yn ddiweddarach.
‘Ymosodiad ffyrnig’
Fe dreuliodd Anna Caladiao chwe diwrnod yn yr uned gofal dwys gydag anafiadau oedd yn bygwth ei bywyd.
Roedd Raymundo wedi gwadu’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn gan honni fod Anna Caladiao wedi rhoi cyffur crystal meth iddo ac wedi ymosod arno ef.
Wrth ei ddedfrydu dywedodd y Barnwr Eleri Rees: “Roedd ei hanafiadau yn bygwth ei bywyd ac fe allai fod wedi marw oni bai bod gweithwyr wedi dod i’w helpu ar ôl iddi redeg i’r stryd.
“Nid ydych wedi dangos unrhyw edifeirwch… Roedd yn ymosodiad ffyrnig.”