Mae polisi ariannu myfyrwyr Cymru yn “anghynaladwy” ac nid yw cadw’r drefn bresennol “yn opsiwn” yn ôl tystiolaeth sydd wedi cael ei gasglu ar gyfer adroddiad sy’n adolygu’r polisi.
Dywedodd yr Athro Syr Ian Diamond, dirprwy ganghellor Prifysgol Aberdeen, yn yr adroddiad interim bod “diffyg consensws ynglŷn â’r ffordd ymlaen” ond bod y rhan fwyaf o’r rhai oedd wedi rhoi tystiolaeth yn derbyn bod “yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd.”
Mae’r adroddiad hefyd yn dweud bod gan fyfyrwyr Addysg Uwch o Gymru lefelau is o ddyled na myfyrwyr sy’n hanu o Loegr yn sgil polisi presennol Llywodraeth Cymru ar gyllid myfyrwyr.
Ar hyn o bryd mae sybsidi gan Lywodraeth Cymru yn sicrhau bod myfyrwyr sydd fel arfer yn byw yng Nghymru yn talu tua £3,500 y flwyddyn am eu cyrsiau lle bynnag yn y DU maen nhw’n penderfynu astudio.
‘Bwlch ariannol sylweddol’
Yn ôl adroddiad blynyddol Hefcw – sy’n ariannu addysg uwch (AU) ar ran Llywodraeth Cymru – roedd wedi rhoi £99.7m mewn grantiau i fyfyrwyr yn 2012-13.
Fe dalodd £65m i brifysgolion yng Nghymru a £34.7m i dalu costau myfyrwyr sy’n dysgu mewn sefydliadau eraill yn y DU.
Ond mae Syr Ian Diamond, sy’n arwain yr adolygiad ar gyllido addysg uwch yng Nghymru a chyllid myfyrwyr, wedi dweud bod ’na bryder, yn enwedig ymhlith y rhai hynny yn y system AU, ynglyn a’r “bwlch ariannol sylweddol” yn lefel buddsoddiad mewn AU yng Nghymru o’i gymharu â rhannau eraill o’r DU.
Yn yr adroddiad dywedodd Syr Ian Diamond: “Credir bod hyn yn effeithio ar allu sefydliadau AU i fuddsoddi, sy’n golygu bod sefydliadau yng Nghymru yn llai cystadleuol ac yn llai abl i ymateb i flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
“Ceir teimlad cryf nad yw trefn gyllido’r sector AU a chyllid myfyrwyr bresennol yng Nghymru yn gynaliadwy yn y dyfodol.”
‘Anfanteisiol i Gymru’
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud fod yr adroddiad yn cadarnhau eu pryderon fod polisi cyllido myfyrwyr yn “anghynaladwy”.
Dywedodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr Angela Burns: “ Rydym yn croesawu canfyddiadau dros-dro yr adolygiad ond yn gweld y polisi yn gwbl anghynaladwy. Mae costau byw yn rhwystr llawer mwy i gael mynediad i addysg uwch ac mae angen cynllun adeiladol i helpu myfyrwyr yn y maes hwn ac mae hynny’n allweddol.
“Mae polisi’r Blaid Lafur yn golygu fod llawer o arian cyhoeddus Cymru yn cael ei roi i brifysgolion yn Lloegr tra bod ein sector yng Nghymru yn parhau i ddioddef. Mae’n annheg ac yn anfanteisiol i Gymru ac fe ddylai ddod i ben.”
Adroddiad terfynol yn 2016
Dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg, “Mae’r adroddiad yn nodi’r themâu allweddol sy’n deillio o’r dystiolaeth honno ond nid yw’n gwneud unrhyw benderfyniad ynghylch dilysrwydd nac arwyddocâd y dystiolaeth honno. Nid yw ychwaith yn ceisio cynrychioli barn panel yr Adolygiad na chyflwyno unrhyw argymhellion. Caiff y rhain eu cyflwyno yn yr adroddiad terfynol a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Medi 2016.”