Gareth Bale yn dathlu gol yn erbyn Gwlad Belg
Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd tair gêm grŵp Cymru ym mhencampwriaeth Ewro 2016 yn cael eu dangos yn fyw yn yr iaith Gymraeg.

Bydd modd dilyn tîm cenedlaethol Cymru yn cystadlu mewn pencampwriaeth ryngwladol am y tro cyntaf ers 1958 yn yr iaith Gymraeg ar deledu ac ar-lein ar S4C.

Bydd y sianel yn darlledu gemau Cymru yng Ngrŵp B yn erbyn Slofacia ddydd Sadwrn 11 Mehefin, Lloegr ddydd Iau, 16 Mehefin a Rwsia ddydd Llun, 20 Mehefin.

Nid yw S4C wedi cadarnhau eto pwy fydd yn cyflwyno’r rhaglenni byw ar S4C.

‘Taith fythgofiadwy’

Dywedodd Sue Butler, Golygydd Chwaraeon S4C: “Rydym wrth ein boddau bod modd i gefnogwyr pêl-droed ar draws y DU wylio gemau Ewro 2016 Cymru yn yr iaith Gymraeg. Mae’n gwbl addas fod un o’r digwyddiadau mwyaf yn hanes chwaraeon ein cenedl ar gael yn ei dwy iaith genedlaethol.

“Mae’r daith fythgofiadwy yn parhau i wylwyr S4C, yn dilyn ein rhaglenni uchafbwyntiau estynedig o gemau rhagbrofol Ewro 2016. Hoffwn ddiolch i’r darlledwyr BBC ac ITV am gydweithio’n agos â ni i sicrhau fod y gemau yma ar gael yn y Gymraeg.”