Montpellier 23–22 Gleision

Sgoriodd Montpellier gais gyda symudiad olaf y gêm wrth iddynt drechu’r Gleision yn Stadiwm Altrad yng Nghwpan Her Ewrop nos Iau.

Roedd y Cymry chwe phwynt ar y blaen wrth i’r cloc droi’n goch ond croesodd Paul Williamse am gais hwyr ac ychwanegodd Demetri Cstrakilis y trosiad i ennill y gêm i’r Ffrancwyr.

Dechreuodd y Gleision yn dda a rhoddodd tair cic gosb Rhys Patchell yn y chwarter cyntaf yr ymwelwyr 6-9 ar y blaen.

Chwaraeodd Patchell ei ran yn y cais agoriadol yn fuan wedyn hefyd, y maswr yn cicio dros yr amddiffyn ac Alex Cuthbert yn casglu’r bêl a chroesi.

Roedd Montpellier yn ôl yn y gêm erbyn yr egwyl serch hynny wedi i Julien Malzieu dirio yn dilyn cic letraws Cstrakilis, 13-16 y sgôr ar yr hanner.

Treuliodd wythwr y Gleision, Msnoa Vosawai, ddeg munud yn y gell gosb hanner ffordd trwy’r ail hanner ond gwnaeth amddiffyn yr ymwelwyr yn dda i gyfyngu’r tîm cartref i dri phwynt yn unig yn y cyfnod hwnnw gyda chic gosb gan Cstrakilis.

Roedd y sgôr yn gyfartal wedi hynny ond rhoddodd dwy gic gosb gan yr eilydd faswr, Jarrod Evans, y Gleision chwe phwynt ar y blaen tuag at ddiwedd y gêm.

Ond y Ffrancwyr aeth â hi yn yr eiliadau olaf wrth i gais hwyr Williamse a throsiad Cstrakilis gipio buddugoliaeth hwyr i Montpellier.

Bu rhaid i’r Gleision fodloni ar bwynt bonws yn unig felly ond mae hwnnw’n ddigon i gadw’r Cymry yn ail yn nhabl grŵp 3, bedwar pwynt y tu ôl i Harlequins sydd wedi chwarae un yn llai.

.

Montpellie

Ceisiau: Julien Malzieu 39’, Paul Williamse 80’

Trosiadau: Demetri Cstrakilis 40’, 80’

Ciciau Cosb: Demetri Cstrakilis 10’, 23’, 61’

.

Gleision

Cais: Alex Cuthbert 27’

Trosiad: Rhys Patchell 28’

Ciciau Cosb: Rhys Patchell 1’, 15’, 19’, Jarrod Evans 68’, 72’

Cerdyn Melyn: Msnoa Vosawai 55’