Mae’r Gleision wedi cadarnhau eu bod nhw wedi arwyddo cyn-brop Awstralia Salesi Ma’afu o Toulon.

Roedd y prop pen tynn yn rhan o garfan y Wallabies yng Nghwpan y Byd 2011 ac mae ganddo 14 cap dros ei wlad.

Cafodd ei ryddhau gan y clwb o Ffrainc ar ôl cael ei ganfod yn euog o ymosod.

Cyn arwyddo i Toulon roedd y chwaraewr 32 oed hefyd wedi cael cyfnodau gyda Northampton, ACT Brumbies a Western Force.

Nid fe yw’r cyntaf o’i deulu i arwyddo dros y Gleision chwaith – chwaraeodd ei frawd Campese Ma’afu dros y rhanbarth am dymor yn 2012.

“Rydyn ni wrth ein boddau yn arwyddo Salesi a’i groesawu i Gleision Caerdydd,” meddai prif hyfforddwr y tîm Danny Wilson.

“Mae Salesi yn brop pwerus fydd yn ychwanegu at ein sgarmes ac yn ehangu opsiynau rheng flaen y garfan.

“Mae ganddo enw da o fewn y gêm, ar ôl ennill cynghrair Lloegr a chwpan Ewropeaidd yn ystod ei gyfnod llwyddiannus â Northampton, ac mae’n awyddus i ymuno â Gleision Caerdydd a chreu argraff gyda’r rhanbarth.”