Milwyr yn defnyddio nwy CS i wasgaru'r dorf yn y Deri yn ystod Bloody Sunday yn 1972
Mae cyn-filwyr wedi ennill brwydr i’w hatal rhag cael eu eu cludo i Ogledd Iwerddon i gael eu holi ynglyn a thrafferthion Bloody Sunday.
Roedd Prif Gwnstabl Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon (PSNI) wedi gwneud cais i’w holi fel rhan o ymchwiliad i weld a gafodd troseddau eu cyflawni gan filwyr ar y diwrnod hwnnw yn 1972.
Ond fe wnaeth y saith cyn-filwr, na ellir cyhoeddi eu henwau, gais am adolygiad barnwrol yn erbyn PSNI am geisio eu gorfodi nhw i fynd i Ogledd Iwerddon i gael eu holi.
Cafodd eu cais ei dderbyn gan y llys, gyda’r Arglwydd Brif Ustus yr Arglwydd Thomas yn dweud bod yr achos yn un “o ddiddordeb cyhoeddus sylweddol”.
‘Dim sylw’
Mae’r achos sydd yn cael ei ymchwilio yn ymwneud â marwolaeth 14 protestiwr dros hawliau sifil yn ninas y Deri ar Sul y Gwaed.
Yn ôl cyfreithwyr y cyn-filwyr, sydd yn byw yn Lloegr, roedd pryderon y gallai eu bywydau fod mewn perygl go iawn petai nhw’n gorfod mynd i Ogledd Iwerddon i gael eu holi am y digwyddiadau.
Dywedodd yr Uchel Lys nad oedd gan PSNI hawl i’w harestio nhw ond y bydden nhw’n “mynychu cyfweliad o dan rybudd … fyddai’n cael ei gynnal gan y PSNI mewn gorsaf heddlu yng Nghymru a Lloegr, neu leoliad derbyniol arall”.
Ychwanegodd James Lewis QC ar ran y cyn-filwyr y bydden nhw’n fodlon cael eu holi o dan yr amodau hynny ond na fydden nhw’n gwneud sylw.