Stuart Hall
Mae’r cyn-gyflwynydd teledu, Stuart Hall, a gafodd ei ddedfrydu am droseddau o gam-drin plant, wedi’i ryddhau’n gynnar o’r carchar.

Cafodd Stuart Hall, 85, cyn-gyflwynydd It’s a Knockout, ei ryddhau o Garchar Wymott yn Sir Gaerhirfryn, ar ôl treulio hanner ei ddedfryd o dan glo am droseddau hanesyddol o gam-drin plant.

Ym mis Medi 2013, cafodd ei garcharu am 15 mis ar ôl cyfaddef ei fod wedi ymosod yn anweddus ar 13 o ferched rhwng 9 ac 17 oed.

Cafodd ei ddedfryd ei ddyblu gan y Llys Apêl ar ôl iddyn nhw ddyfarnu bod ei ddedfryd wreiddiol yn “annigonol.”

Yna, ym mis Mehefin y llynedd, derbyniodd 30 mis ychwanegol o garchar am ddau ymosodiad anweddus ar ferch arall.

Byddai Stuart Hall wedi derbyn lleiafswm o wyth mlynedd yn y carchar y llynedd am un o’r ymosodiadau pe byddai wedi’i ddedfrydu o dan y cyfreithiau presennol, ond roedd y llys wedi’u cyfyngu i’r ddedfryd fwyaf oedd ar gael ar adeg y drosedd.

‘Rheoliadau caeth’

Fe fydd Stuart Hall, sy’n dathlu’i ben-blwydd yn 86 oed ar ddydd Nadolig, yn cael ei ryddhau ar drwydded am y 15 mis nesaf ac yn atebol i reoliadau caeth.

Roedd ei gyfreithwyr wedi dadlau ei fod yn wynebu marw yn y carchar.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder mai “diogelwch y cyhoedd yw ein prif flaenoriaeth, ac mae troseddwyr sydd wedi’u rhyddhau ar drwydded hanner ffordd trwy eu dedfryd yn atebol i reoliadau caeth.”

Fe gynhaliwyd yr ymchwil i ymddygiad Stuart Hall yn ystod ei gyfnod gyda’r BBC gan Farnwr o’r Uchel Lys, y Fonesig Linda Dobbs. Roedd ei hymchwiliad yn ffurfio rhan o Arolwg y Fonesig Janet Smith i ddiwylliant ac ymarferion y BBC yn ystod y blynyddoedd y gweithiai Jimmy Savile i’r gorfforaeth.