Mae Heddlu’r Gogledd wedi amgylchynu tŷ yn Wrecsam prynhawn ma yn dilyn adroddiadau o aflonyddwch.
Cafodd yr heddlu eu galw i’r tŷ yn ardal Coed Aben, Wrecsam tua 1:05yp prynhawn dydd Mercher, 16 Rhagfyr, yn dilyn adroddiadau bod dyn, y credir sy’n byw yn y tŷ, yn gwrthod gadael yr adeilad.
Mae’n debyg nad oes unrhyw un arall yn y tŷ.
Mae swyddogion yr Heddlu wedi amgylchynu’r eiddo gyda’r bwriad o “amddiffyn y cyhoedd ac yna sicrhau bod y dyn yn gadael y tŷ yn ddiogel.”
Mae trafodwyr arbenigol hefyd wedi cael eu hanfon i’r safle er mwyn ceisio datrys y mater yn heddychlon.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gofyn i’r cyhoedd i gadw draw o’r ardal.