Yr awdur Tony Bianchi
Mae un o awduron amlycaf Cymru wedi dweud wrth golwg360 ei fod wedi’i ‘synnu’ a’i ‘siomi’ ynglŷn â’r ‘diffyg gwybodaeth’ sydd ynghylch penderfyniad i dorri 10.6% o gyllid y Cyngor Llyfrau.
Fel awdur, nid yw Tony Bianchi yn gwybod beth mae’r toriadau yn ei olygu iddo fe, meddai, dim ond bod y cyhoeddiad ddoe wedi bod yn “sioc.”
Mewn llythyr at y cyhoeddwyr, dywedodd cadeirydd a phrif weithredwr y Cyngor Llyfrau – yr Athro M Wynn Thomas ac Elwyn Jones – bod hwn yn ostyngiad ‘sylweddol iawn’ ac yn ‘hynod heriol’.
“Dwi’n gorfod cydnabod anwybodaeth,” meddai, “yn rhannol o ddiffyg atebolrwydd a diffyg tryloywder (y Llywodraeth), gan eu bod, hyd y gwelaf i, heb roi unrhyw gyfiawnhad dros eu penderfyniad nhw.”
‘Anochel’ y bydd awduron yn dioddef
Roedd yn dweud, serch hynny, ei bod hi’n “anochel” y bydd awduron yn dioddef yn sgil y toriadau.
“Mae’n rhaid i’r Cyngor Llyfrau, wrth reswm, bennu blaenoriaethau nhw ei hunain, a dewis pwy allen nhw aberthu heb effeithio’n ormodol ar y ddarpariaeth yn ei grynswth,” meddai enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod eleni.
Mae’r Cyngor Llyfrau yn wynebu toriad o £374,000 mewn cyllideb gwerth £3,526,000, sy’n ostyngiad o dros ddwbl yr hyn mae Cyngor Celfyddydau Cymru’n ei wynebu, sef 4.7% o’i gyllid (£1.5m).
Dywedodd Tony Bianchi hefyd, sy’n gyn-bennaeth adran llenyddiaeth y Cyngor Celfyddydau, bod angen “herio a mynnu eglurhad” gan y Llywodraeth, a bod hynny “ond yn deg mewn cymdeithas ddemocrataidd.”
“Y cam cyntaf yw cael eglurhad gan y Llywodraeth sydd wedi gwneud y penderfyniadau yma ac mae’n rhaid eu bod nhw wedi ei wneud ar sail trafodaethau a’r trafodaethau hynny wedi tynnu ar wybodaeth o ryw fath,” ychwanegodd.
“Ydy e’n gorff (y Llywodraeth) cyfrifol ac atebol? Mae’n rhaid iddyn nhw ddangos hynny, mae’n rhaid iddyn nhw brofi ac amlygu eu hatebolrwydd.”
Gweinidog ‘ddim am roi manylion penodol’
Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru pam bod toriad y Cyngor Llyfrau dros ddwbl yr hyn mae diwydiannau creadigol eraill yn eu hwynebu ond dywedodd llefarydd nad oedd y Gweinidog dros Ddiwylliant, Ken Skates AC, am fynd i fanylion penodol.