Fel rhan o adroddiad Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi (HMIC) i ymdriniaeth yr heddlu â thrais domestig, mae pwyllgor gwarchod wedi rhybuddio fod unedau heddlu yn wynebu “llwyth gwaith aruthrol” yn wyneb “cynnydd syfrdanol mewn achosion.”

Yn ôl adroddiad HMIC a gyhoeddwyd heddiw, cofnodwyd 353,100 o droseddau o drais domestig yng Nghymru a Lloegr hyd at Ebrill.

Roedd hyn yn gynnydd o bron i draean – 31% – o gymharu â’r flwyddyn a arweiniai at Awst 2013. Golyga hyn fod troseddau sy’n ymwneud â thrais domestig yn cyfrif am 10% o’r holl droseddau sy’n cael eu cofnodi.

O ganlyniad, mae Zoe Billingham o HMIC yn poeni fod y cynnydd hwn yn effeithio ar “lwyth gwaith aruthrol” yr unedau ymchwil arbenigol, a bod hynny’n “arafu ac yn rhwystro rhai ymchwiliadau.”

‘Cynnydd syfrdanol’

Fe ychwanegodd Zoe Billingham fod yna “gynnydd syfrdanol wedi bod mewn trosedd sy’n gysylltiedig â thrais domestig.”

Mae adroddiad yr HMIC yn awgrymu fod hynny’n ganlyniad i gofnodi gwell a chywirach sy’n  gadael ei effaith ar y gyfradd arestio, a bod hynny’n “ddatblygiad cadarnhaol.”

“Yn syml, does gan rai lluoedd ddim digon o staff arbenigol i ddelio ag achosion.”

Mae’r adroddiad yn nodi nad oes staff llawn yn y lluoedd oherwydd swyddi gwag, cyfnodau mamolaeth neu absenoldebau tymor hir.

Er hyn, pwysleisiodd fod “ymdrech benodol wedi’i gwneud gan arweinwyr yr heddlu i wneud trais domestig yn flaenoriaeth, ac mae ymddygiad a dealltwriaeth swyddogion y rheng flaen yn gwella.”

“Ein neges yw y dylai dioddefwyr o drais domestig gael yr hyder i gamu ymlaen i gofnodi’r niwed y maen nhw wedi’i ddioddef.”

Mae’r adroddiad yn nodi fod “angen gwelliannau”, gan nodi nad yw rhai lluoedd yn adnabod nac yn llwyddo i fonitro achosion sy’n digwydd tro ar ôl tro.

Nid oedd saith llu heddlu yn gallu darparu data ar y nifer o arestiadau a wnaed am drais domestig, ac yn ôl HMIC, mae hynny’n “annerbyniol.”

Fe groesawodd Mark Castle, Prif Weithredwr yr elusen Cymorth i Ddioddefwyr,  y datblygiadau mae’r adroddiad yn eu hamlygu, cyn ychwanegu fod “pryderon mawr” yn parhau yn y cyfraddau erlyn, ac am hynny mae’r dioddefwyr yn dibynnu ar “loteri eu cod post.”