Mae bron i 700 o bobl sy’n cael eu hamau o droseddau rhyw wedi cael eu harestio ar draws y DU yn ystod y naw mis diwethaf.

Bu ymgyrchoedd yr Asiantaeth Droseddau Cenedlaethol (NCA) yn targedu pobl sy’n lawrlwytho delweddau anweddus o blant ar y we.

Roedd un ymhob saith o’r rhai gafodd eu harestio yn cael eu cyflogi neu’n gwirfoddoli mewn swyddi yn y sectorau dysgu, meddygaeth, yr heddlu, cyfiawnder troseddol a llywodraeth.

Cafodd cyfanswm o 682 o bobl eu harestio yn y DU ar amheuaeth o gael mynediad at ddelweddau anweddus o blant yn ystod y naw mis diwethaf fel rhan o ymgyrch sy’n cael ei arwain gan yr NCA a 40 o luoedd yr heddlu.

Hyd yn hyn, mae 147 wedi’u cyhuddo a 399 o blant wedi cael eu diogelu gan yr awdurdodau.