Y lori wedi'r ddamwain
Mae dau ddyn wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â damwain lori yng Nghaerfaddon ym mis Chwefror pan gafodd pedwar o bobl eu lladd, tri ohonyn nhw o Gymru.

Bu farw Stephen Vaughan, 34 oed o Benyrheol; Phil Allen, 52 oed o Gasllwchwr a Robert Parker, 59 o Gwmbrân ynghyd a Mitzi Rosanna Steady, 4, o Gaerfaddon ar ôl i lori 32 tunnell golli rheolaeth a tharo nifer o gerbydau a cherddwyr wrth deithio i lawr allt serth yn Upper Weston, Caerfaddon ar 9 Chwefror.

Mae Phillip John Potter, 19, o Dauntsey, Wiltshire yn wynebu dau gyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus a dau gyhuddiad o achosi niwed difrifol drwy yrru’n beryglus.

Mae Matthew Gordon, 29, o Dauntsey, Wiltshire, wedi’i gyhuddo o ddau gyhuddiad o gynorthwyo achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, dau gyhuddiad o gynorthwyo achosi niwed difrifol drwy yrru’n beryglus, ac un cyhuddiad o yrru’n beryglus.

Mae’r ddau wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth ac fe fyddan nhw’n mynd gerbron Llys Ynadon Caerfaddon ar 21 Ionawr.