Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi cyhoeddi y bydd canlyniad terfynol y Refferendwm dros aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd yn cael ei gyhoeddi ym Manceinion.

Mae David Cameron wedi addo y bydd y refferendwm yn cael ei gynnal cyn diwedd 2017.

Fe fydd y canlyniad hanesyddol yn cael ei gyhoeddi gan gadeirydd y Comisiwn Etholiadol, Jenny Watson.

Fe fydd y papurau pleidleisio yn cael eu cyfrif dros nos ar ôl i’r bythau pleidleisio gau am 10yh ar ddiwrnod y refferendwm, gyda disgwyl i’r canlyniad gael ei gyhoeddi yn ystod oriau man y bore.

‘Anrhydedd’

Mae’r lleoliad sydd eto i’w ddatgelu ym Manceinion ymhlith 12 o ganolfannau cyfrif o blith 11 o ranbarthau etholiadau Prydain ac un o Ogledd Iwerddon.

Dywedodd Jenny Watson ar ran y Comisiwn Etholiadol: “Rydym yn falch iawn i allu cyhoeddi ein bod yn gweithio gyda Chyngor Dinas Manceinion er mwyn cynnal digwyddiad cenedlaethol ynghyd â’r cyfrif rhanbarthol.”

Dywedodd Swyddog Cyfrif Manceinion Syr Howard Bernstein: “Mae Manceinion yn gweld hyn yn anrhydedd  ein bod wedi cael ein dewis fel lleoliad i’r digwyddiad democrataidd hwn ble bydd yna ddiddordeb byd eang.”