Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am dystion ar ôl i ddyn 80 oed gael ei anafu’n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad gyda cherbyd yn Llandudno neithiwr.

Cafodd yr Heddlu eu galw ychydig ar ôl 10yh nos Fercher yn dilyn adroddiadau bod dyn oedrannus wedi bod mewn gwrthdrawiad â cherbyd yn Nevill Crescent.

Cafodd y ffordd ei chau ac aethpwyd â’r dyn i Ysbyty Gwynedd ym Mangor. Mae bellach wedi’i drosglwyddo i’r ysbyty yn Stoke yn dioddef o anafiadau difrifol sy’n peryglu ei fywyd.

Mae’r Heddlu’n apelio ar unrhyw un a oedd yn yr ardal ar y pryd, ac a allai fod wedi gweld y digwyddiad neu sydd ag unrhyw wybodaeth, i ffonio Uned Plismona’r Ffyrdd ar 101 gan ddyfynnu cyfeirnod S188180.

Cafodd y ffordd ei hailagor ychydig ar ôl 1yb ddydd Iau.