Mae achos i gamweinyddu cyfiawnder wedi i dri dyn gael eu cyhuddo ar gam am lofruddiaeth a ddigwyddodd 30 mlynedd yn ôl wedi dod i’r casgliad nad oes digon o dystiolaeth i gyhuddo unrhyw un.
Fe wnaeth Michael O’Brien, Darren Hall ac Ellis Sherwood o Gaerdydd dreulio dros ddegawd yn y carchar ar ôl cael eu cael yn euog o lofruddio’r gwerthwr papurau newydd, Phillip Saunders yn 1987.
Cafodd Ymgyrchoedd Fortitude a Resolute eu sefydlu i adolygu’r ymchwiliad gwreiddiol yn dilyn cwynion gan Michael O’Brien, a gafodd ei ryddhau ynghyd â’r ddau ddyn arall yn 1999, am y modd roedd Heddlu De Cymru wedi delio â’r ymchwiliad.
Roedd Michael O’Brien yn honni bod swyddogion yr heddlu wedi ‘bygwth tystion’ i roi tystiolaeth ffug, a bod eraill wedi dweud celwydd wrth roi tystiolaeth.
Ond doedd yr ymchwiliad heb ganfod unrhyw dystiolaeth o gamweinyddu ac mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi penderfynu na ddylid erlyn unrhyw un, gan gynnwys swyddogion sydd wedi ymddeol.
“Tystiolaeth anghyson”
Yn ôl adroddiad yr heddlu, roedd tystion, a gafodd eu cyhuddo o ddweud celwydd gan Michael O’Brien wedi rhoi tystiolaeth “anghyson” a bod y dystiolaeth honno wedi “ei thynnu’n ôl neu ei newid”.
Roedd y pum tyst allweddol wedi “gwrthod cydweithredu â’r ymchwiliad”, a oedd yn golygu nad oedd modd i’r heddlu “ddod o hyd i unrhyw dystiolaeth i gefnogi neu wrthbrofi’r honiadau bod plismyn wedi rhoi pwysau ar dystion i roi tystiolaeth ffug”.
Er hyn, roedd Heddlu’r De wedi dweud yng nghasgliadau’r adroddiad bod ei ddull o weithio bellach wedi newid.
Roedd yr ymchwiliad wedi cynnwys astudio dros 20,000 o ddogfennau, cyfweld â chwe pherson a chasglu datganiadau gan 90 o dystion.
Achos llofruddiaeth Phillip Saunders
Cafodd ymchwiliad newydd i lofruddiaeth Phillip Saunders ei agor yn 2003, ond ddaeth dim tystiolaeth bellach, ac mae’r heddlu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.
Mae Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu’r De, Matt Jukes a’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Alun Michael wedi cwrdd â Michael O’Brien i “drafod yr adroddiad yn fanwl”.
“Mae’r adroddiad hwn yn ganlyniad i nifer o flynyddoedd o graffu ar yr achos, a bwriad ei gyhoeddi yw gwneud hynny’n glir i’r cyhoedd,” meddai’r Dirprwy Brif Gwnstabl, Matt Jukes.
Dywedodd fod Michael O’Brien wedi “mynegi ei werthfawrogiad o waith trylwyr” Heddlu’r De a’r “gwelliannau” sydd wedi’u cyflwyno ers 1987.
“Mae’r cyhoeddiad terfynol wedi ystyried agweddau cyfreithiol yr achos, yn ogystal â’r ffordd orau o ddelio â gwybodaeth sensitif.
“Rydym yn ofalus i beidio â thanseilio unrhyw ymchwiliad pellach i lofruddiaeth Phillip Saunders. Ni ddylai’r drosedd ofnadwy hon gael ei hanghofio ac rydym wedi cadw mewn cysylltiad agos â theulu Phillip Saunders.”